top of page
insight newport 1.jpg

Fel darparwr iechyd galwedigaethol allanol blaenllaw, mae Insight Workplace Health bob amser yn chwilio am glinigwyr medrus, brwdfrydig a phrofiadol yng Nghymru a ledled y DU. Rydyn ni’n croesawu gweithwyr proffesiynol o amrywiaeth o ddisgyblaethau, gan gynnwys meddygon galwedigaethol cymwys, cynghorwyr iechyd galwedigaethol, yn ogystal â nyrsys iechyd meddwl, arbenigwyr cyhyrysgerbydol, ergonomegwyr, a mwy.

Pam dewis gyrfa ym maes iechyd galwedigaethol?

Mae iechyd galwedigaethol yn faes sy'n tyfu, sy’n hanfodol ac sy’n werth chweil, gyda galw cynyddol ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat. Wrth i fwy o sefydliadau flaenoriaethu llesiant gweithwyr, mae'r angen am weithwyr proffesiynol medrus i gefnogi iechyd corfforol a meddyliol yn y gweithle yn fwy nag erioed.

​P'un a ydych chi'n chwilio am yrfa sefydlog, hirdymor, neu her newydd sy'n eich galluogi i wneud gwahaniaeth go iawn ym mywydau pobl, mae iechyd galwedigaethol yn cynnig llwybr clir ar gyfer datblygiad, boddhad swydd a hyblygrwydd.

​ Angen gwybod mwy am bwy y byddech chi'n gweithio ochr yn ochr â nhw? Dewch i gwrdd â'n tîm a dod i adnabod y bobl yn Insight Workplace Health.

Swyddi sydd ar gael yn gyson

Rydyn ni bob amser â diddordeb mewn clywed gan weithwyr proffesiynol brwdfrydig sy'n angerddol am iechyd a llesiant yn y gweithle. P'un a ydych chi'n gwbl gymwys, yn gweithio tuag at achrediad perthnasol, neu newydd ddechrau eich gyrfa, efallai fod gennym ni’r swydd i chi.

Rydyn ni’n recriwtio'n gyson ar gyfer ystod eang o rolau ar draws ein timau clinigol a chymorth, gan gynnwys:

  • Cynghorwyr Iechyd Galwedigaethol (OHAs)

  • Meddygon Iechyd Galwedigaethol

  • Technegwyr Iechyd Galwedigaethol

  • Gweinyddwyr a Chydlynwyr

Pam gweithio gyda ni?

Yn Insight Workplace Health, credwn mewn mwy na dim ond darparu gwasanaethau clinigol – credwn mewn cefnogi pobl i aros yn iach, parhau i weithio, a ffynnu yn eu gyrfaoedd. P'un a ydych chi'n nyrs, yn feddyg, yn dechnegydd, neu'n gwneud swydd arall, fe welwch chi bwrpas, cynnydd, ac amgylchedd tîm cefnogol yma.

 

Beth i’w Ddisgwyl?

Gwneud Effaith Go Iawn

Helpu unigolion a sefydliadau i wella iechyd, lleihau risg, a chreu gweithleoedd iachach.

Diwylliant Tîm Cefnogol


Dewch i weithio ochr yn ochr â gweithwyr proffesiynol profiadol a chyfeillgar sy'n gwerthfawrogi cydweithio a llesiant – eich llesiant chi a'n cleientiaid.

Datblygu Gyrfa


O hyfforddiant yn y gwaith i gefnogaeth gyda chymwysterau Iechyd Galwedigaethol, rydyn ni yma i'ch helpu i ddatblygu eich gyrfa.

Gwaith Clinigol Amrywiol


Does dim dau ddiwrnod yr un fath – byddwch chi'n gweithio ar draws gwahanol ddiwydiannau, lleoliadau a heriau iechyd.

Cyfleoedd Hyblyg


Rydyn ni’n cynnig cymysgedd o swyddi llawn-amser, rhan-amser a hyblyg i gyd-fynd â'ch bywyd a'ch blaenoriaethau.

Yswiriant Iechyd Preifat


Mae eich llesiant yn bwysig i ni – rydyn ni’n cynnig yswiriant iechyd preifat fel rhan o'n pecyn buddion i weithwyr.

Yn falch o fod yn Gyflogwr Cyflog Byw


Rydyn ni wedi ymrwymo i roi cyflog teg i'r holl staff ac wedi ein hachredu fel Cyflogwr Cyflog Byw.

185c30_09fddb0897444604961f1adf4645604b~mv2.jpg

Gyrfaoedd ym maes iechyd galwedigaethol

Er mwyn gofyn am alwad i drafod cyfleoedd gyrfa posibl gydag Insight Workplace Health gan un o'n tîm recriwtio o fewn y 7 diwrnod nesaf, cliciwch yma

Er mwyn cael gwybod drwy e-bost am unrhyw swyddi gwag (clinigwyr) yn y dyfodol, cliciwch yma

 

Os hoffech uwchlwytho eich CV i roi gwybod i ni mwy am eich sgiliau a'ch profiad, cliciwch yma

Matt Higginson.webp
“Dwi’n dal i deimlo fy mod i’n gwneud gwahaniaeth i’r rhai dwi’n ymwneud â nhw bob dydd … Dwi’n cael ‘buzz’ bob dydd o gefnogi’r tîm gwych o glinigwyr dwi’n gweithio gyda nhw.”

Matt Higginson, Rheolwr Gweithrediadau Clinigol

Rhai o'n cwsmeriaid:

bottom of page